Gwisg ysgol yn Ysgol Dyffryn Teifi


Mae nifer o'n cyd-ddisgyblion yn anhapus gyda'r wisg ysgol ar hyn o bryd. Does dim dewis i gael i'r wisg. Does dim siawns i neb i fod yn unigryw. Gwisg yr ysgol nawr yw sgert neu drowsus du, crys chwys neu gnu du, crys polo coch, sanau du ac esgidiau du.

Un o'r broblemau gwisg mae rhai disgyblion yn anhapus gyda yw'r rheol 'rhaid gwisgo sgert neu drowsus yn yr haf' Yn yr haf mae'n rhy dwym i wisgo trowsus felly mae rhaid i ni wisgo sgert ond mae llawer o ferched yn anhapus iawn gyda gwisgo sgert. Dyma beth nae rhai o'r disgyblion yn meddwl. Fe ofynon ni i Annie
Edwards disgybl yn mlwyddyn 10 beth mae hi'n meddwl am y peth:

'Rwy'n meddwl dyla'r ysgol gael trowsus 3/4 yn lle sgert. Rwy'n meddwl hyn achos, mae'r sgertiau yn denu'r sylw anghywir wrth y bechgyn, ac mae'r gwynt yn chwythu nhw lan. Mae'r trowsus 3/4 hefyd yn rhwydd i wisgo ac yn edrych yn smart ac yn daclus.

Mae nifer o ddisgyblion yn cytuno'n llwyr gydag Annie. Mae rheol newydd wedi cael ei sefydlu bod ddim hawl i wisgo sgarffiau yn yr ysgol achos damwain mewn ysgol arall. Rydyn ni'n deall bod sgarffiau yn gallu bod yn beryglus ond mae'n gallu bod yn oer iawn yn y gaeaf. Felly mae'r cwestiwn yn codi, beth allwn i ddefnyddio yn lle sgarffiau i gadw'n dwym? Siaradon ni gyda Rebeca James am ei syniadau:

Os byddwn yn cael hwdies i'r ysgol bydd dim rhaid i ni wisgo sgarffiau achos mae'n agos i'ch gwddf, hefyd bydd pawb yn hoffi'r hwdies felly bydd ddim cwynion amdanynt'.
Does dim llawer o broblemau gwisg i gael yn yr ysgol ac mae'r rhai sydd yn gallu bod yn rhwydd i ddatrys, gobeithio yn y dyfodol byddwn nhw'n cael eu datrys a bydd rhan fwyaf o'r ysgol yn hapusach.

 

Cyfryngau
Symud yr Ysgol
Adroddiad I’r gwefan y BBC

Coridors tywyll, paint yn pilo, dyma realiti Ysgol Dyffryn Teifi! Nawr mae angen newid mawr. Fel yr ydych yn gwybod mae’r Ysgol yn symyd safle, safle llawer mwy saff i’r pobl anabl ac hyd yn oed ni fel disgyblion. Felly mae’r cwestiwn yn codi lan yw beth i wneud gyda sgerbwd yr ysgol?

Mae digonedd o syniadau gwych sydd yn ateb ein problemau ni. Gallwn cael gweithgareddau llawn sbort i bob oedran. Felly bydd hyn yn cadw plant o’r strydoedd. Hefyd bydd yna llai o drwbl a llai o ddinistrio yn pentref Llandysul.

Un o’r syniadau ni oedd i droi sgerbwd yr ysgol mewn i rhyw glwb mawr sy’n llawn o bethau i’r ieuenctid, sydd yn denu mwy o bobl i’r pentref. Bydd hyn yn beth da i wneud oherwydd mae yna bypass yn cael ei adeiladu sydd yn mynd rownd Llandysul. Mae hyn yn mynd i leihau y ffigwr o bobl sydd yn dod i Llandysul.

Nol i’r syniad o newid yr hen adeilad, pam lai cael gwersi dawns o genres gwahanol, wedyn cyflwyno ei rwtiniau yn y clwb nos/disgo! Mae yna lawer o bethau eraill wrth gwrs a bydd yn siwtio pobl eraill fel coginio, celf a cerdd!

Felly i grynhoi bydd y syniad hyn rydym wedi son amdano yn berffaith pan fydd yr ysgol yn symud oherwydd bydd yn denu pobl i’r pentref, cadw busnesau yn gadarn, creu mwy o waith i’r gymuned gan bod y wasgfa ariannol yn digwydd y funud hon, cadw plant ieuenctid i ffwrdd o'r strydoedd.