Neges oddiwrth y Prifathro -
Cyfarchion cynnes iawn i chi, a chroeso i dudalennau gwefan Ysgol Dyffryn Teifi.
Ysgol uwchradd sy'n dysgu'r mwyafrif helaeth o bynciau trwy gyfrwng y Gymraeg yw Ysgol Dyffryn Teifi. Daw'r disgyblion atom o dref hynafol Llandysul ac o ardaloedd cefn gwlad prydferth y Sir.