> BBC Ysgolion
Sut i fwynhau gwaith cartref! Mae'r safle'n cynnwys yr amrediad cyfan o
bynciau'r cwricwlwm, ar gyfer yr ystodau oedran 4-11, 11-16 a 16+.
> ThinkQuest
Safle Americanaidd o erthyglau sy'n seiliedig ar y cwricwlwm wedi'u paratoi gan
athrawon a myfyrwyr fel rhan o'r 'Thinkquest challenge'. Byddai rhai ohonynt yn ddefnyddiol ar gyfer
Cyfnod Allweddol 2 ac ymlaen.
> Enchanted Learning
Llawer o bynciau gwahanol: o fforestydd glaw i siarcod, a llosgfynyddoedd i ddeinasoriaid. Mae pethau i'w gwneud yma hefyd.
> Kevin's Playroom
Dolenni i lawr o safleoedd pynciau difyr a defnyddiol, gan gynnwys ychydig o
gemau a hwyl hefyd.
> Homework
High
Help gyda nifer o bynciau gwahanol, ac mae'n cynnwys newyddion a chwaraeon.
> Drws
Mae'r safle gwaith cartref hwn yn cynnwys pob oedran a diddordeb.
> Amgueddfa
Hanes Naturiol (Natural History
Museum)
Llawer o wybodaeth am ddeinasoriaid, gwyddoniaeth yn
eich gardd, pryfed ac adar, er enghraifft, gan gynnwys y cyfle i archwilio
gwrthrychau rhithwir gydag offer a sain rhyngweithiol. Yn dda er diddordeb
cyffredinol, gwaith cartref ac i'w ddefnyddio mewn ysgolion a cholegau. Cyfnod
Allweddol 2 ac uwch.
> Kids
Health
Dyma safle lliwgar a bywiog sy'n edrych ar deimladau, parhau'n iach, y corff,
tyfu'n oedolyn, salwch ac anafiadau, manteision ymarfer corff, problemau
cyffuriau ac ati, gan gynnwys rhai gemau da. Mae wedi'i fwriadu ar gyfer
cynulleidfa eang o Gyfnod Allweddol 2 ymlaen. (Noder: efallai y byddai'n
werth i athrawon/rhieni edrych ar y rhannau y bydd y plant yn edrych arnynt o
flaen llaw.)
> Yr Oriel
Genedlaethol (National Gallery)
Mae gwefan yr Oriel Genedlaethol yn cynnwys casgliad ar-lein o weithiau celf,
gyda gwybodaeth am yr arlunwyr. Yn dda ar gyfer myfyrwyr Ysgol Uwchradd.
> Take One Picture
Wedi'i chysylltu â gwefan yr Oriel Genedlaethol, dyma gynllun rhyngweithiol i
ysgolion cynradd greu eu gwaith eu hunain gan gymryd darlun enwog fel man
cychwyn.
> BBC:
Hanes i Blant (History for Kids)
Mae amrywiaeth o bynciau hanesyddol wedi'u cynnwys i ddisgyblion cynradd, gan
gynnwys llinell amser, Y Celtiaid, Rhufeiniaid, bywyd tref yn yr Alban yn ystod
Oes y Tuduriaid, plant Fictoraidd, a phlant yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ar lefel
uwchradd, mae adran ddefnyddiol ar y Rhyfel Byd Cyntaf.
> BBC: Hanes
Cyffredinol (General History)
Wedi'i fwriadu ar gyfer disgyblion hyn, mae tudalennau hanes cyffredinol y BBC
yn cynnwys ystod lawn o bynciau hanesyddol e.e. archeoleg, pobl enwog,
rhyfeloedd a gwrthdaro.
> BBC:
Rhufeiniaid (Romans)
Llawer o ffeithiau diddorol am yr Ymerodraeth Rufeinig. O'r gladiatoriaid i
adeiladwyr ffyrdd, a'r fyddin Rufeinig i fywyd teuluol. Yn ddefnyddiol ar gyfer
Cyfnod Allweddol 2 ac uwch.
> Museum
of Antiquities
Llawer o wybodaeth am Oes y Cerrig a Bywyd Rhufeinig yng Ngogledd Lloegr. Yn
ddefnyddiol ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 ac uwch.
> Cestyll Cymru (Welsh Castles)
Gwybodaeth am dros 400 o Gestyll Cymru, gyda ffotograffau da o'r safleoedd a
gwybodaeth fywgraffiadol am y bobl a adeiladodd y cestyll. Mae nifer o gestyll
Powys wedi'u cynnwys ar y wefan, gan gynnwys cestyll llai
adnabyddus. Cyfnod Allweddol 2 ac uwch.
> Hanes Digidol Powys
Yn wych ar gyfer prosiectau hanes lleol. Cyfnod Allweddol 2 ac uwch.
> Powys:
Diwrnod ym Mywyd
Gwybodaeth ardderchog ar gyfer prosiectau lleol. Cyfnod Allweddol 2 ac
uwch.
> Tudor Britain
Gallwch gael gêm o chwarae paled ar y safle hwn, gyda gwybodaeth gefndirol am
chwaraeon, herodraeth a bywyd fel marchog ym Mhrydain yn Oes Elizabeth.
> Cadbury's Learning Zone
Mae'r adran hanes ar y wefan hon yn ddefnyddiol ar gyfer Prydain yn Oes Fictoria, gan edrych ar sut beth oedd gweithio i Cadbury's tua 1900, bywyd yn nhref Fictoraidd Birmingham,
a sut a pham y cafodd pentref newydd Bournville
ei adeiladu, gan gynnwys rhai o'r teuluoedd oedd yn byw yno. Gwybodaeth i rieni
ac athrawon hefyd, gyda deunyddiau a gweithgareddau i'w lawrlwytho.
Cyfnod Allweddol 2 ac uwch.
>
Ymgyrchu
Trafodaeth/golwg ddefnyddiol ar hanes gwleidyddiaeth ac ymgyrchu cymdeithasol
yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. I ddisgyblion Ysgolion Uwchradd ac uwch.
> World War II
Mae Robert Westall, awdur sydd wedi ennill gwobrau yn
trafod yr Ail Ryfel Byd a sut y cafodd effaith ar fywyd yn North
Shields, ei ardal enedigol. Dyma roi cipolwg diddorol
iawn ar amser rhyfel, yn enwedig 1941, gyda hanes argyfwng cyrch awyr ym mis
Mai 1941, gan gynnwys straeon tystion, a golwg gyflym ar 1941 fel blwyddyn - y
newyddion, y ratiwns, prisiau, bywydau plant ac ati.
>
ThinkQuest: Music
Y cyfan y byddwch angen ei wybod am gyfansoddwyd ac offerynnau! Cyfnod
Allweddol 2 ac uwch, er ei bod yn fwy addas ar gyfer disgyblion Ysgol Uwchradd.
>
ThinkQuest: Religions
Mae llawer o erthyglau am wahanol grefyddau ar y wefan hon (e.e..
FEZTVE). Mae'n sôn am 5 prif grefydd y byd a'u
gwyliau pwysig, gan gynnwys ryseitiau hyd yn oed i gyd-fynd â hwy!
> National Geographic
Mae'r safle Americanaidd hwn yn cynnwys llawer o weithgareddau difyr a storiau newyddion ynghyd ag ystod o adnoddau ar gyfer helpu
gyda gwaith cartref, yn sôn am anifeiliaid, hanes, mapiau, lleoedd, y ddaear
a'r gofod, a llawer iawn mwy. Cyfnod Allweddol 2 ac uwch.
> Nature
Grid
Llawer o ddeunyddiau hanes naturiol. Digonedd o wybodaeth ar fywyd gwyllt,
cynefinoedd a phrosiectau cadwraeth.
> Flags
Edrychwch ar unrhyw fflagiau'r byd yma.
> Cadbury Learning Zone
Mae adran yr amgylchedd yn sôn am wahanol amgylcheddau ym Mhrydain ac ar draws
y byd (megis anialdiroedd, coetiroedd, afonydd ac ati) gydag adrannau yn trafod
pob un, yr hyn sy'n fygythiadau iddynt, a'r hyn y gellir ei wneud i'w
diogelu. Yn cynnwys gweithgareddau, ac adrannau i rieni/athrawon.
> Cwm Elan
Mae gan y safle hwn lawer o wybodaeth am gronfeydd dwr a'r amgylchedd lleol
e.e. afonydd, planhigion a bywyd gwyllt, gan gynnwys y barcud coch. Mae'n sôn
am gronfa ddwr Cwm Elan ym Mhowys.
> BBC Cymru:
Celtiaid
BBC Cymru Celtiaid.
> BBC Cymru:
Hanes Cymru
BBC Cymru Hanes Cymru.
> BBC Cymru: Ffeil
BBC Cymru Ffeil.