TWRW'R TEIFIe-bost/e-mail:  admin@dyffrynt.ceredigion.gov.uk

 

CYLCHLYTHYR MIS HYDREF 2006 OCTOBER NEWSLETTER 2006

 

GAIR GAN Y PRIFATHRO A WORD FROM THE HEADTEACHER

 

Hoffwn ddiolch yn fawr i staff, disgyblion a rhieni'r ysgol am y gefnogaeth a gefais wrth ddechrau ar fy  gwaith ym mis Medi. Hyderaf y bydd y cylchlythyr yn dod yn nodwedd rheolaidd, fel modd o rosglwyddo gwybodaeth greiddiol i ddisgyblion a rhieni am weithgareddau a phigion yr ysgol.

 

A hearty thanks to staff, pupils and parents of the school for your support whilst commencing duties in September. I sincerely hope that the newsletter will appear regularly as a means of conveying important information to the pupils and parents regarding activities and highlights of the school

 

PRIF DDISGYBLION/SENIOR PREFECTS

 

 

Emlyn Davies a Ffion Harris - Prif Ddisgyblion

Huw Bryant, Gareth Jones, Siriol Teifi a Sara Davies - Dirprwy Prif Ddisgyblion gyda Mr Aeron Rees, y Prifathro.

 

Emlyn Davies and Ffion Harris - Senior Prefects

Huw Bryant, Gareth Jones, Siriol Teifi and  Sara Davies - Deputy Senior Prefects with Mr Aeron Rees, the Headteacher.

 

 

Presenoldeb

Rydym yn anelu at wella presenoldeb yn gyffredinol yn yr ysgol, felly ni allaf or-bwysleisio gormod bwysigrwydd mynychu'n rheolaidd.  Cefais nifer o geisiadau i ganiatau absenoldeb oherwydd gwyliau teuluol yn ystod y tymor.  Tra'n deall amgylchiadau sawl teulu, gofynnaf yn garedig iawn i chi ymatal rhag yr arfer yma cyn belled a bob modd.

 

Attendance

We endeavour to improve attendance generally at the school, therefore I can't stress enough the importance of regular attendance.  I have received a number of letters asking for absence with permission due to family holidays during the term.  Whilst we understand the circumstances of some families, I ask you kindly to refrain from this custom as much as possible.

 

Dyddiadau Pwysig/Important Dates

HMS/INSET - 20-10-06

NOSWEITHIAU RHIENI/

PARENTS EVENING

Blwyddyn 7 - 13-11-06 Year 7

ARHOLIADAU YSGOL/

SCHOOL EXAMS

Arholiadau Ffug Blwyddyn 11 -

gorffen 15-12-06

year 11 Mock Exams - completed by

15-12-06

GWYLIAU YSGOL/

SCHOOL HOLIDAYS

Hanner Tymor/Half Term

23-10-06 - 27-10-06

Diwedd Tymor/End of Term

 22-12-06

Gweler y rhestr fanylach/See the more detailed list

 

GWISG YSGOL

Disgwyliwn y safon uchaf posibl o wisg ysgol gan ddiolch am gydweithrediad yn y mater.  Mae'n fwriad gennym i ganiatau cnu swyddogol, gyda bathodyn, ar gael gan y cyflenwyr lleol.  Hyderwn y bydd y cnu yn gymorth mawr i ddisgyblion blynyddoedd 7-11 yn ystod yr Hydref a'r Gaeaf.

 

SCHOOL UNIFORM

We expect the highest standard of school uniform and thank you for your co-operation in this matter.  We will grant permission for an official fleece, with badge, available from local suppliers.  We are certain that the fleece will be of great help to the pupils of years 7-11 during Autumn and the winter months.

 

Ysgol Dyffryn Teifi yn cyflwyno

NOSON O ADLONIANT

nos Iau, Tachwedd 30ain

yn Neuadd yr Ysgol

Tocynnau ar werth yn fuan

 

Ysgol Dyffryn Teifi present

an EVENING OF ENTERTAINMENT

Thursday, November 30th

at the School Hall

Tickets available soon

 

ADEILADWAITH/CONSTRUCTION

Dyma rai disgyblion sy'n dilyn y cwrs 'Adeiladwaith' CITB yn yr ysgol.  Yn ddiweddar, roeddent yn rhan o brosiect gwych yn y pentref, lle roeddent yn aildrefnu gardd, o dan ofalaeth Mr Selcon.  Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion fu'n rhan o'r fenter gyffrous hon.

 

Here are some of the CITB Building course  students hard at work.  Recently they were part of a wonderful project in the village, where they worked to re-organise a garden for a disabled pensioner. The project was led by Mr D Selcon.  Congratulations to all involved for their hard work in helping others.

 

 

 

CROESO I ATHRAWON NEWYDD

Croeso twymgalon iawn i Mr Aeron Rees fel Prifathro newydd Ysgol Dyffryn Teifi.  Mae

Mrs Meinir Lewis-Jones yn ymuno ā'r Adran Saesneg a Mrs Cei Pryderi yn Gydlynydd ac Athrawes yn yr Adran Gynnal.  Croeso cynnes hefyd i Mrs Eirlys Ladd a Mrs Pauline Price i'r Adran Gynnal.

NEW STAFF AT THE SCHOOL

A very warm welcome to Mr Aeron Rees as the Headteacher of Ysgol Dyffryn Teifi.  Mrs Meinir Lewis-Jones has joined the English Department, and Mrs Cei Pryderi as Co-ordinator and Teacher in the Support Department.  A hearty welcome also to Mrs Eirlys Ladd and Mrs Pauline Price as Support Staff.

 

AELODAU O'R CYNGOR YSGOL 2006-2007 MEMBERS OF THE SCHOOL COUNCIL

Ffion Griffiths a Gareth Thomas 7C;  Iestyn Evans a Samantha Evans 7Y; Owain Thomas a Heini Lloyd 7M; Emma Evans a Carwyn Evans 7R; Bethan Green a Gareth Thomson 7U; Siān Davies a Cennydd Jones 8C; Chris Marks ac Angharad Evans 8Y; Llŷr Price a Catrin Reynolds 8M; Bethan Davies a Daniel Whittall 8R; Cari Thomas a Rom Rogers 8U; Llŷr Lewis a Caryl Jones 9C; Helen Hughes a Rhodri Morris 9Y; Amy Reed a James Etheridge 9M; Galen Burnett a Lowri Jones 9R; Steffani James a Morgan Jones 9U; Morys Ioan a Rebecca Williams 10C; Carwen Thomas a Dyfed Davies 10Y; Catryn Rees a Llŷr Roberts 10M; Llŷr Jones ac Alice Whittall 10R; Dafydd Morgan a Ceris Jones 11C; Charlotte Roworth a Wyn Jones 11Y; Natalie Hargreaves a Guto Jenkins 11M; James Harris a Nia Mai Jones 11R; Alex Mathews ac Alison Jenkins 12C; Jamie Horwood a Llinos Williams 12Y; Llŷr Thomas ac Elen Morgan 12M; Nia Teleri Jones 13M; Emlyn Davies 13Y;  Ffion Harris 13C; Huw Bryant 13Y; Gareth Jones 13C; Sara Davies 13C a Siriol Teifi 13Y.

 

Bellach maent wedi cynnal un cyfarfod llwyddiannus.  Dyma rai materion a drafodwyd yn ddiweddar - Gwisg Ysgol, Adeiladau, Rheolau Ysgol, Trefniadau Bwyd.

By now, they have held a successful meeting.  Here are some of the matters raised during the meeting - School Uniform

Buildings, School Rules, Eating arrangements.

 

LLWYDDIANNAU

Cystadleuaeth cogydd Gŵyl Fwyd Llambed/Lampeter Food Festival Cookery Competition

Llongyfarchiadau mawr i Guto Gwilym, Blwyddyn 10, am ei lwyddiant yn y maes Arlwyo. 

Coginiodd Guto pryd dau gwrs gan ddefnyddio cynnyrch lleol o Farchnad y Ffermwyr, o fewn tri-chwarter awr, ac o dan y pris £7.50.  Y beirniaid oedd Joan Cristoff Novelli a Mel Thomas.  Y wobr oedd £75 a £40 i'r ysgol.  Pob lwc i'r dyfodol.

Well done to Guto Gwilym, Year 10, for his success in the Catering world.  Guto was expected to prepare and cook a two-course meal within ¾ hour, using local produce from the Farmers Markets, all for under £7.50.  The adjudicators were Joan Cristoff Novelli and Mel Thomas.  The prize was £75 for Guto and £40 to the school.  Best wishes in the future Guto.

 

 

Codi arian i elusen/Raising money for charity

Braf iawn yw gweld disgyblion a staff yn llwyddo i godi  cymaint o arian i

helpu eraill.  Cyflwynwyd siec o £1086.78 i'r Cynghorydd Keith Evans yn

ddiweddar, a hynny tuag at Ymchwil Cancr.  Yn y llun hefyd gwelir

Mr Aeron Rees, Prifathro, Mr David Thomas a Miss Gwawr Ladd,  athrawon

yn yr ysgol a  threfnwyr y dydd elusen, a prif ddisgyblion yr ysgol, Emlyn

Davies a Ffion Harris.

It is a very pleasant experience to see staff and pupils raising money to help

 others in our communities.  A cheque for £1086.78 was presented recently

for Cancer Research to Counsellor Keith Evans.  Also in the picture is the

Headteacher, Mr Aeron Rees, Mr David Thomas and Miss Gwawr Ladd,

 teachers at the school and organisers of the charity day, and also the Senior Prefects, Emlyn Davies and Ffion Harris.

 

 

Canŵio yn yr Awstria!Canoeing in Austria!

Llongyfarchiadau calonnog iawn i Owain Evans o Landysul am ei lwyddiant yn y byd canŵio!  Ddiwedd Medi bu Owain yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth ganŵio yn Klagenfurt, yr Awstria.  Llwyddodd i ddod yn bumed mewn cystadleuaeth Ryngwladol!  Ardderchog wir!

Congratulations to Owain Evans for his success in the canoeing world.  During September, Owain took part in a canoeing competition at Klagenfurt, Austria.  He succeeded in becoming fifth overall in an international competition!  Well done indeed!

 

 

Croesawn sylwadau am y Cylchlythyr

i'r Swyddog Cyfathrebu.

 

Comments please about the

Newsletter to the Press Correspondent